1 Chronicles 8

Disgynyddion Benjamin

1Roedd gan Benjamin bump mab:

Bela, yr hynaf, wedyn Ashbel, Achrach, 2Nocha, a Raffa.

3Meibion Bela:

Adar, Gera, Abihwd 4Afishŵa, Naaman, Achoach 5Gera, Sheffwffân, a Chwram.

6Dyma ddisgynyddion Echwd (oedd yn benaethiaid y teuluoedd o Geba gafodd eu gorfodi i symud i Manachath):

7Naaman, Achïa a Gera. Gera wnaeth arwain y symudiad. Roedd yn dad i Wssa ac Achichwd.

8Cafodd Shacharaîm feibion yn Moab ar ôl ysgaru ei wragedd Chwshîm a Baara. 9Gyda'i wraig Chodesh cafodd feibion:

Iobab, Sibia, Mesha, Malcam, 10Iewts, Sochia, a Mirma. Dyma'r meibion ganddo oedd yn arweinwyr teuluoedd. 11O Chwshîm cafodd Afitwf ac Elpaäl.

12Meibion Elpaäl:

Eber, Misham, Shemed (wnaeth adeiladu Ono a Lod a'r pentrefi o'u cwmpas), 13Bereia a Shema. Nhw oedd penaethiaid y teuluoedd oedd yn byw yn Aialon, wnaeth yrru pobl Gath i ffwrdd.

14Achïo, Shashac, Ieremoth, 15Sebadeia, Arad, Eder, 16Michael, Ishpa, a Iocha oedd meibion Bereia.

17Sebadeia, Meshwlam, Chisci, Heber, 18Ishmerai, Islïa, a Iobab oedd meibion Elpaäl.

19Iacîm, Sichri, Sabdi, 20Elienai, Silthai, Eliel, 21Adaia, Beraia, a Shimrath oedd meibion Shimei.

22Ishpan, Eber, Eliel, 23Abdon, Sichri, Chanan, 24Chananeia, Elam, Antothïa, 25Iffdeia, a Penuel oedd meibion Shashac.

26Shamsherai, Shechareia, Athaleia, 27Iaäresheia, Elïa, a Sichri oedd meibion Ierocham.

28Y rhain oedd penaethiaid y teuluoedd oedd yn cael eu rhestru yn y cofrestrau teuluol. Roedden nhw'n byw yn Jerwsalem.

29Roedd tad Gibeon yn byw yn Gibeon (ac enw ei wraig oedd Maacha). 30Enw ei fab hynaf oedd Abdon, wedyn cafodd Swr, Cish, Baal, Nadab, 31Gedor, Achïo, Secher a Milcoth.

32Micloth oedd tad Shimea. Roedden nhw hefyd yn byw yn Jerwsalem gyda'i perthnasau.

Teulu Saul

(1 Cronicl 9:35-44)

33Ner oedd tad Cish, a Cish oedd tad Saul. Saul oedd tad Jonathan, Malci-shwa, Abinadab ac Eshbaal
8:33 Eshbaal Enw arall ar Ish-bosheth gw. 2 Samuel 2:8.
.

34Mab Jonathan:

Merib-baal
8:34 Merib-baal enw arall ar Meffibosheth – gw. 2 Samuel 4:4.

Merib-baal oedd tad Micha.

35Meibion Micha:

Pithon, Melech, Tarea, ac Achas.

36Achas oedd tad Iehoada, a Iehoada oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri.

Simri oedd tad Motsa, 37a Motsa oedd tad Binea. Raffa oedd enw mab Binea, Elasa yn fab i Raffa, ac Atsel yn fab i Elasa.

38Roedd gan Atsel chwe mab:

Asricam oedd yr hynaf, wedyn Ishmael, Sheareia, Obadeia, a Chanan. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Atsel.

39Meibion ei frawd Eshec:

Wlam oedd yr hynaf, wedyn Iewsh, wedyn Eliffelet.

40Roedd meibion Wlam yn ddynion dewr ac yn gallu trin bwa saeth. Roedd ganddyn nhw gant pum deg o feibion ac wyrion. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Benjamin.

Copyright information for CYM